Maenor Aur: Datganiad Diben
Mae plant, rhieni a staff yn parchu ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd mewn awyrgylch hapus ac ymlaciol.
Mae Maenor Aur wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer anghenion eich plentyn ynghyd ag ystafelloedd ymdawelu yn llawn offer modern ac amrywiaeth o deganau y mae plant yn dwli arnyn nhw ac sy’n briodol i’r oedran. Y tu fas mae yna offer chwarae sy’n addas ar gyfer pob ystod oedran. Mae ein hagwedd tuag at ddysgu wedi’i ganoli ar y plentyn ac mae hynny’n hyrwyddo datblygiad yr unigolyn ynghyd â’i hunanhyder tra darparir y safon uchaf o ofal meithrinfa.
Mae Maenor Aur yn derbyn plant o chwe wythnos oed hyd at wyth oed o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydym yn sicrhau fod anghenion unigol pob plentyn yn cael ei fodloni trwy ddarparu gweithiwr allweddol ar gyfer pob plentyn sy’n cadw llygad arnyn nhw’n rheolaidd, ac yn mesur datblygiad y plentyn ymhob un o’r pum parth o ddatblygu dysgu: perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a llesiant, a’r camau dilynol o hyrwyddo eu chwarae, datblygiad a dysgu. Mae gweithiwr allweddol y plentyn yn cael ei ddewis gan y plentyn ac maen nhw’n sicrhau bod datblygiad, diddordebau, diogelwch ac, uwchlaw pob dim, hapusrwydd yn ganolog i bob dim rydym yn ei wneud.
Amdanom Ni:
Mae Maenor Aur yn darparu awyrgylch hapus a gofalgar sy’n caniatáu i blant ddysgu a thyfu trwy chwarae. Mae’r plant, y rhieni a’r staff yn parchu ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd mewn awyrgylch o gyfoethogi a gofalu. Mae ein Hystafelloedd Chwarae yn cynnig cyfleoedd gwych i blant chwarae. Mae’r plant yn mwynhau chwarae y tu fas, celfyddydau creadigol, chwarae synhwyraidd, chwarae anniben, ioga, gofalu, straeon, dynwared a phobi, i enwi dim ond ychydig o’r gweithgareddau. Mae mynediad hawdd o’r ystafell chwarae i’r ardal chwarae y tu fas wrth i ddrws arwain yn uniongyrchol i ardal gaeedig y tu fas. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd ffantastig i’r plant i chwarae yn yr awyr agored. Rydym yn anelu i gynnig i bob plentyn y gorau mewn gofal plant. Rydym yn cynnig sesiynau cynefino am ddim fel bod eich plentyn yn hapus ac yn gyffyrddus cyn iddo ddechrau yn swyddogol.
Yr Iaith Gymraeg: Mae gan blant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru yr hawl i deimlo synnwyr o berthyn i Gymru a’i diwylliant ac i fwynhau profiadau yn ymwneud â’r Gymraeg, ac felly rydym yn cyfathrebu yn bennaf yn Gymraeg. Anogir plant i ddysgu geiriau ac ymadroddion Cymraeg gydol ein gweithgareddau dyddiol.