Ein Hystafell Chwarae i Blant 2–3 oed
Mae'r ystafell chwarae hon yn helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd wrth roi cyfle i blant ddysgu, datblygu a chwarae.
Mae ein hystafell chwarae yn arbenigo mewn gofalu am blant 2–3 oed, gan gynnig safon uchel iawn o ofal a dysgu i blant. Bydd yna gyfleoedd i blant archwilio a datblygu mewn amgylchedd gofalgar a phroffesiynol.
Yn yr ystafell chwarae, ymdrechwn i adeiladu ar yr hyn y mae eich plentyn eisoes yn ei wybod, gan gynnig cyfleoedd i ehangu eu dysg a datblygu gwybodaeth trwy brofiadau newydd. Bydd prif berson eich plentyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu, a bydd hyn yn cael ei gyfuno â siarad â rhieni/gofalwyr ac annog teuluoedd i rannu sylwadau am eu plentyn.
Bydd hyn yn ein helpu i gynnig gweithgareddau ac amgylchedd sy’n codi hunan-barch plant ac yn rhoi hyder iddyn nhw wneud dewisiadau iach.
Yn yr ystafell chwarae hon, cynigiwn:
Dechrau'n Deg: 12.5 awr o ofal a ariennir yn ystod y tymor yn unig ar gyfer rhieni cymwys.
Cynnig Gofal Plant Cymru: 20 awr o ofal plant a ariennir yng Nghymru yn ystod y tymor am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynyddu i 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am hyd at wyth wythnos o'r gwyliau ysgol i rieni cymwys.
Gofal cofleidiol: Rydyn ni’n cynnig gofal cofleidiol i Ysgol Bro Penfro heb unrhyw gostau cludiant.
Mae ein hystafell chwarae yn ystafell chwarae fawr eang, sy'n rhoi cyfle i'r plant ddewis eu gweithgareddau chwarae trwy gydol y dydd. Mae gan yr ystafell fynediad i ardal laswellt gyda chegin fwd a gallwn gael mynediad at lwybrau cerdded trwy'r coed. Cynigiwn ofal a dysgu o safon uchel drwy’r Cwricwlwm i Gymru ac egwyddorion Gwaith Chwarae.